Ymateb y Llywodraeth: Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

 

Pwynt Craffu Technegol 1

Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt.

Nid yw’r Llywodraeth o’r farn bod y gwall teipograffyddol mân yn effeithio ar ddilysrwydd yr offeryn. Mae’r gwall a’r cyfeiriad cywir yn glir o’r cyd-destun a’r troednodyn.

Er eglurder, mae’r Llywodraeth o’r farn bod cywiriad yn briodol, a bydd yn ceisio ei wneud cyn gynted â phosibl drwy slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 2

Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt.

Er gwaethaf y gwall, mae’r Llywodraeth o’r farn bod y bwriad deddfwriaethol yn glir, y gellir dod o hyd i’r cyfyngiadau sy’n gymwys i’r sylweddau a restrir yn yr Atodlen 6 newydd i O.S 2012/2705 (Cy. 291) yn yr Atodlen honno.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cywiro’r gwall pan fydd y cyfle nesaf yn codi. Rhagwelir ei bod yn debygol y bydd offeryn statudol addas ar gyfer y cywiriad yn mynd rhagddo yn ystod hanner cyntaf 2023.

 

Pwynt Craffu Technegol 3

Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt.

Er gwaethaf y gwall, mae’r Llywodraeth o’r farn nad oes risg gwirioneddol o ddryswch. Mae’r diwygiad i’r term Cymraeg ei hun a ddiffinnir yn gywir. Yn nhestun Saesneg rheoliad 2(1) o O.S. 2013/2591 (Cy. 255), nid oes unrhyw ddiffiniad arall y gellid drysu’r diffiniad Cymraeg ag ef.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cywiro’r gwall yn y testun Cymraeg pan fydd y cyfle nesaf yn codi. Rhagwelir ei bod yn debygol y bydd offeryn statudol addas ar gyfer y cywiriad yn mynd rhagddo yn ystod hanner cyntaf 2023.

 

Pwynt Craffu Technegol 4

Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt.

Mae’r gwall teipograffyddol mân yn ymddangos yn y testun sy’n nodi lleoliad y diwygiad arfaethedig i reoliad 19(2) o O.S. 2013/2591 (Cy. 255). Nid yw’r Llywodraeth o’r farn bod y gwall teipograffyddol amlwg hwn yn arwain at risg o ddryswch ynghylch lle y bwriedir mewnosod y diwygiad.

Bydd y Llywodraeth yn ceisio cywiro’r gwall hwn drwy slip cywiro.

 

Pwynt Craffu Technegol 5

Mae’r Llywodraeth yn derbyn y pwynt.

Mae’r Nodiadau Esboniadol yn cadarnhau bod yr Atodlen 1B newydd i O.S 2016/386 (Cy. 120) yn gopi wedi’i drosi o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2002/32/EC fel yr oedd y Gyfarwyddeb honno yn cael effaith yn union cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu. Mae’n glir nad oes newid o sylwedd yn cael ei wneud. Mae’r testun o dan sylw “blawd gwymon a deunyddiau blawd sy’n deillio o wymon” wedi bod yn agwedd sefydledig o’r Atodiad hwnnw ers 2003, felly bydd rhanddeiliaid yn gyfarwydd â’r cynnwys cywir. Wrth ddehongli’r ddeddfwriaeth, mae’r Llywodraeth o’r farn ei bod yn amlwg bod gwall yn y testun Cymraeg, a bod y testun Saesneg yn cynnwys y geiriad cywir y bwriedir ei gymhwyso.

Mae’r Llywodraeth yn bwriadu cywiro’r gwall yn y testun Cymraeg pan fydd y cyfle nesaf yn codi. Rhagwelir ei bod yn debygol y bydd offeryn statudol addas ar gyfer y cywiriad yn mynd rhagddo yn ystod hanner cyntaf 2023.